Wrth ystyried posibiliadau iaith fel cyfrwng gweledol, mae gwaith aml-gyfrwng Esyllt Angharad Lewis yn cwestiynu i ba raddau y gellir chwarae â ffiniau cyfathrebu a chyfieithu, ar draws ieithoedd, cyfryngau a phrosesau. Drwy archwilio tensiynau rhwng ieithoedd llafar a gweledol, a chwestiynau'n ymwneud â pherfformio hunaniaeth, mae Esyllt yn defnyddio'i llais siarad yn ogystal â iaith y corff i archwilio sŵn iaith, yn benodol y Gymraeg mewn perthynas â'r Saesneg, eu presenoldeb corfforol, a'u priodweddau gweledol drwy ddarnau sain, perfformiad, gwaith argraffu a gosodiad.
Previous
Previous